Need another language?
முதுமைக்கால மறதி நோய் (டிமென்ஷியா) என்றால் என்ன?
டிமென்ஷியா என்பது சாதாரண வயதானதன் ஒரு பகுதி மட்டுமல்ல. இது அல்சைமர் போன்ற நமது மூளையைப் பாதிக்கும் நோய்களால் ஏற்படுகிறது.
ડિમેન્શિયા એટલે શું?
બધા જ વૃદ્ધ લોકોને ડિમેન્શિયા નથી થતું. ડિમેન્શિયા અનેક બીમારીઓને કારણે થાય છે.
ਮਨੋਰੋਗ ਕੀ ਹੈ?
ਮਨੋਰੋਗ ਕੋਈ ਇਹੋ ਜਿਹੀ ਚੀਜ਼ ਨਹੀਂ ਹੈ ਜੋ ਹਰੇਕ ਵਿਅਕਤੀ ਨੂੰ ਉਸ ਦੀ ਉਮਰ ਵਧਣ ਕਾਰਨ ਹੁੰਦਾ ਹੈ। ਇਹ ਵੱਖ-ਵੱਖ ਬਿਮਾਰੀਆਂ ਕਰਕੇ ਹੁੰਦਾ ਹੈ।
Nid rhywbeth sy’n digwydd i bob un ohonom wrth inni fynd yn hŷn yw dementia. Mae gwahanol afiechydon yn ei achosi.
Beth yw dementia?
Mae ein hymennydd yn rheoli popeth rydym yn meddwl amdano, yn ei deimlo, ei gofio a’i wneud.
Mae yna glefydau sy’n atal ymennydd rhywun rhag gweithio’n iawn. Pan fydd unigolyn yn dioddef o un o’r clefydau hyn, fe all brofi anawsterau wrth feddwl, cofio a siarad. Fe all wneud neu ddweud pethau sy’n ymddangos yn od i eraill, a’i chael yn fwy anodd gwneud tasgau beunyddiol. Efallai na fydd fel y person yr arferai fod.
Pan fydd y problemau hyn yn gwaethygu dros amser, gall meddygon ddefnyddio’r gair dementia i’w disgrifio.
Ar bwy y mae dementia’n effeithio?
Gall dementia effeithio ar unrhyw un.
- Mae gan bron i 1,000,000 o bobl yn y DU dementia.
- Yn y DU mae mwy o fenywod na dynion â dementia.
- Mae pobl dros 75 oed yn fwy tebygol o lawer o gael dementia, ond gall effeithio ar bobl iau hefyd.
Sut mae dementia yn effeithio ar rywun?
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn anghofio pethau o bryd i’w gilydd, fel lle gadawsom ein allweddi. ‘Dyw hyn ddim yn golygu bod dementia arnom. Pan fydd dementia ar rywun, mae’r symptomau yn gwaethygu’n araf hyd nes iddynt amharu ar fywyd arferol pobl.
Pan fydd pobl â dementia, fe allwch weld rhai o’r pethau hyn yn digwydd:
Anghofio digwyddiadau, enwau ac wynebau diweddar.
Heb fod yn siŵr am y dyddiad neu amser y dydd.
Holi’r un cwestiwn yn aml mewn cyfnod byr o amser.
Mynd ar goll, fel arfer mewn llefydd sy’n newydd.
Rhoi pethau yn y lle anghywir.
Ei chael hi’n anodd defnyddio’r geiriau iawn neu ddeall geiriau pobl eraill.
Cael anhawster wrth dalu sylw neu wrth wneud penderfyniadau syml.
Newidiadau yn y ffordd mae rhywun yn teimlo ac yn gweithredu, fel mynd yn drist neu ypsetio’n hawdd, neu golli diddordeb mewn pethau.
Pam ei fod yn digwydd?
Nid rhywbeth sy’n digwydd i bawb wrth iddynt heneiddio yw dementia. Mae gwahanol glefydau yn ei achosi.
Mae’r clefydau hyn yn effeithio ar wahanol rannau o’r ymennydd, felly maent yn effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl â dementia glefyd Alzheimer neu ddementia fasgwlaidd, ond mae mathau eraill hefyd.
Mae meddygon a gwyddonwyr yn gweithio’n galed i ddarganfod mwy am ddementia - gan gynnwys beth sy’n ei achosi.
Gall rhai pobl fod yn fwy tebygol nag eraill i ddatblygu dementia, fel pobl gafodd strôc, neu sydd â:
- Diabetes.
- Pwysedd gwaed uchel.
- Colesterol uchel.
- Iselder.
Os yna wellhad?
Ar hyn o bryd, does dim meddyginiaethau all wella dementia. Wedi i rywun gael dementia, bydd yno am weddill ei oes a bydd yn gwaethygu dros amser.
Mae yna rai meddyginiaethau a all helpu am gyfnod, gan wneud bywyd bob dydd dipyn yn haws. Efallai y bydd yna weithgareddau grŵp ar gael i bobl gymryd rhan ynddynt i’w helpu i fyw’n well gyda’u symptomau. Gall eich meddyg ddweud mwy wrthych am y rhain.
Sut mae dementia yn effeithio ar rywun?
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn anghofio pethau o bryd i’w gilydd, fel lle gadawsom ein allweddi. ‘Dyw hyn ddim yn golygu bod dementia arnom. Pan fydd dementia ar rywun, mae’r symptomau yn gwaethygu’n araf hyd nes iddynt amharu ar fywyd arferol pobl.
Pan fydd pobl â dementia, fe allwch weld rhai o’r pethau hyn yn digwydd:
Alla’ i atal fy hun rhag cael dementia?
Nid oes unrhyw ffordd o atal unrhyw un rhag cael dementia, ond mae camau y gallwn eu cymryd i'w gwneud hi'n llai tebygol y byddwn ni'n cael dementia.
Gofynnwch i’ch meddyg wirio iechyd eich calon, gan gynnwys pwysedd gwaed a cholesterol, a dilynwch gyngor y meddyg os bydd lefelau’r cyflyrau hyn yn rhy uchel.
Bwytewch ddiet cytbwys gyda digon o ffrwythau a llysiau.
Os oes diabetes arnoch, cadwch at gyngor eich meddyg.
Daliwch ati i ddefnyddio eich ymennydd - trwy weithgareddau neu grwpiau cymdeithasol yr ydych yn eu mwynhau.
Peidiwch â smygu.
Cadwch yn fywiog a cheisiwch beidio â threulio gormod o amser yn eistedd.
Cadwch eich pwysau’n iach.
Yfwch lai na 14 uned o alcohol yr wythnos.
Sicrhewch fod eich clyw a'ch golwg wedi'u gwirio'n rheolaidd a dilynwch unrhyw driniaeth os rhagnodir.
Cadwch mewn cysylltiad â'r byd a'r bobl o'ch cwmpas.
Ble i fynd am help
Os ydych yn tybio bod rhywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef o ddementia, anogwch ef neu hi i weld y meddyg.
Bydd y meddyg yn bwrw golwg i weld beth sy’n achosi’r problemau. Weithiau, fe all y person gael ei anfon at ail feddyg a all ddweud a oes dementia arno ef neu hi. Gallwch fynd gyda’ch perthynas neu eich ffrind os byddant yn gofyn i chi.
Os bydd y meddyg yn dweud unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall yn iawn, gofynnwch am esboniad.
Dyma rai cysylltiadau defnyddiol eraill
Mae Admiral Nurses yn cynnig cyngor ymarferol, cymorth ac awgrymiadau defnyddiol i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd.
0800 888 6678
Mae Alzheimer’s Society yn darparu gwybodaeth, cymorth a grwpiau cymorth lleol. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.
0333 150 3456
Mae Alzheimer Scotland yn cynnig gwasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor i bobl yn yr Alban.
0808 808 3000
Ysgrifennwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2024
Bydd yn cael ei adolygu ym mis Tachwedd 2026
Dementia Research Infoline
Oes gennych chi gwestiynau am ymchwil dementia a chymryd rhan?
Rydym ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb eich galwadau.
0300 111 5111
infoline@alzheimersresearchuk.org
Mae’r galwadau’n gyfrinachol ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.