Nid rhywbeth sy’n digwydd i bob un ohonom wrth inni fynd yn hŷn yw dementia. Mae gwahanol afiechydon yn ei achosi.

Beth yw dementia?

Mae ein hymennydd yn rheoli bron popeth rydym yn ei feddwl, yn ei deimlo, yn ei ddweud ac yn ei wneud. Mae hefyd yn storio ein hatgofion inni.

Mae rhai afiechydon yn atal yr ymennydd rhag gweithio’n iawn. Pan fydd gan rywun un o’r afiechydon hyn, efallai y byddant yn cael trafferth cofio, meddwl a siarad. Efallai y byddant yn dweud neu’n gwneud pethau sydd i weld yn rhyfedd i eraill, ac yn ei chael hi’n anodd gwneud pethau arferol. Efallai na fyddant yr un fath ag yr oeddent o’r blaen.

Mae meddygon yn defnyddio’r gair dementia i ddisgrifio’r gwahanol broblemau hyn.

Clefyd Alzheimer neu ddementia fasgwlaidd sydd gan y mwyafrif o bobl sydd â dementia, ond ceir mathau eraill hefyd.

Pam mae’n digwydd?

Nid rhywbeth sy’n digwydd i bob un ohonom wrth inni fynd yn hŷn yw dementia. Mae gwahanol afiechydon yn ei achosi.

Mae’r afiechydon hyn yn glefydau sy’n effeithiau ar wahanol rannau o’r ymennydd, felly maent yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod pam mae’n bosib i un person gael un o'r clefydau hyn ac i berson arall beidio. Mae meddygon a gwyddonwyr yn gweithio’n galed i geisio dysgu mwy am ddementia.

Sut mae dementia’n effeithio ar unigolyn?

Bydd y mwyafrif ohonom yn anghofio pethau o dro i dro. Er enghraifft, anghofio ble rydym wedi rhoi ein hallweddi. Nid yw hyn yn golygu bod gennym ddementia. Mae arwyddion dementia’n gwaethygu’n raddol nes eu bod yn creu problemau sy’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd.

Pan fydd rhywun yn dechrau cael dementia, efallai y gwelwch rai o’r arwyddion hyn:

Calendar 100x100

Anghofio enwau, wynebau a digwyddiadau diweddar.

Round Arrow 100x100

Gofyn yr un cwestiynau dro ar ôl tro o fewn cyfnod byr.

Magnificient Galss 100x100

Rhoi pethau yn y lle anghywir.

Puzzle 100x100

Cael trafferth talu sylw neu wneud penderfyniadau syml.

Clock 100x100

Ddim yn siŵr beth yw’r dyddiad neu faint o’r gloch yw hi.

Directions 100x100

Mynd ar goll, mewn mannau sy’n newydd iddynt fel arfer.

Speech 100x100

Cael trafferth defnyddio’r geiriau cywir neu ddeall geiriau pobl eraill.

Hand 100x100

Newidiadau o ran y ffordd mae’r unigolyn yn teimlo. Gallai ddechrau teimlo’n drist neu’n ofidus, neu golli diddordeb mewn pethau.

Wrth i ddementia waethygu, efallai y bydd yr unigolyn yn cael trafferth siarad yn glir neu ddweud wrthych beth maent ei eisiau neu sut maent yn teimlo. Efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd bwyta ac yfed, ymolchi a gwisgo amdanynt, a mynd i’r toiled heb gymorth.

Ar bwy mae dementia’n effeithio?

Mae dementia’n gyffredin iawn.

Bob dydd, mae bron i 600 o bobl yn y DU yn dechrau
dangos arwyddion o ddementia.

Yn y DU, mae
mwy o ferched
nag o ddynion â dementia.

Mae pobl dros 65 oed yn fwy tebygol o gael dementia, ond gall effeithio ar bobl iau na hynny hefyd.

Gall rhai pobl fod yn fwy tebygol o gael dementia nag eraill. Er enghraifft, pobl sydd wedi cael strôc neu sydd ag un o’r canlynol:

  • diabetes
  • pwysedd gwaed uchel
  • colesterol uchel
  • iselder.

A oes triniaeth i iacháu pobl sydd â dementia?

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosib iacháu rhywun sydd â dementia. Os bydd rhywun yn cael dementia, bydd yr afiechyd ganddynt am weddill eu bywyd.

Mae rhai meddyginiaethau’n gallu helpu am gyfnod, drwy wneud bywyd o ddydd i ddydd ychydig yn haws. Mae’n bosib hefyd y bydd gweithgareddau grŵp y gall pobl gymryd rhan ynddynt i’w helpu i ymdopi â’r symptomau yn well. Gall eich meddyg ddweud mwy wrthych am hyn.

What Is Dementia Ft

Yn anffodus, nid oes meddyginiaethau sy’n gallu rhoi diwedd ar y clefyd, felly bydd pobl yn parhau i waethygu dros amser.

Alla i osgoi cael dementia?

Nid oes ffordd o osgoi cael dementia, ond drwy wneud y pethau canlynol gallai fod yn llai tebygol y byddwch yn ei gael:

Heart 100x100

Gofyn i’ch meddyg gael golwg ar iechyd eich calon, gan gynnwys pwysedd gwaed a cholesterol, a dilyn cyngor y meddyg os yw’r rhain yn rhy uchel.

Drop 100x100

Os oes gennych ddiabetes, dilyn cyngor eich meddyg.

Smoke 100x100

Peidio ag ysmygu.

Apple 100x100

Cael deiet cytbwys, gan fwyta digonedd o ffrwythau a llysiau.

Walk 100x100

Symud o gwmpas ddigon a cheisio peidio treulio cyfnodau hir yn eistedd.

Scale 100x100

Cadw eich pwysau ar lefel iach.

Head 100x100

Defnyddio’ch ymennydd – drwy ymuno mewn gweithgareddau neu grwpiau cymdeithasol rydych yn eu mwynau.

Drink 100x100

Peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos

Ysgrifennwyd y daflen ym mis Tachwedd 2018
I’w hadolygu ym mis Tachwedd 2020

Dyma rai cysylltiadau defnyddiol eraill

Mae Admiral Nurses yn cynnig cyngor ymarferol, cymorth ac awgrymiadau defnyddiol i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd.
0800 888 6678

Mae Alzheimer’s Society yn darparu gwybodaeth, cymorth a grwpiau cymorth lleol. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.
0300 222 1122

Mae Alzheimer Scotland yn cynnig gwasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor i bobl yn yr Alban.
0808 808 3000

Infoline Sidebar1 Landscape

Dementia Research Infoline

Oes gennych chi gwestiynau am ymchwil dementia a chymryd rhan?
Rydym ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb eich galwadau.
0300 111 5 111
infoline@alzheimersresearchuk.org
Mae’r galwadau’n gyfrinachol ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.

Ble i gael help

Os ydych yn meddwl bod gan rywun rydych yn ei adnabod ddementia, gofynnwch iddynt fynd i weld eu meddyg. Bydd y meddyg yn ceisio darganfod beth sy’n achosi eu problemau. Weithiau, bydd y person yn cael ei anfon at feddyg arall a fydd yn gallu dweud wrthynt a oes ganddynt ddementia ai peidio. Cewch fynd gyda’ch perthynas neu ffrind i weld y meddyg os byddant yn gofyn ichi wneud hynny.

Os bydd y meddyg yn dweud unrhyw beth sy’n aneglur i chi, gofynnwch iddo esbonio.

ARUK Clinic 030 1024x683 Landscape
Quick Guide Landscape

Gofalu am rywun sydd â dementia

Mae gofalu am rywun sydd â dementia yn gallu newid eich bywyd mewn sawl ffordd. Mae help ar gael i bawb y mae dementia yn effeithio arnynt, gan gynnwys aelodau’r teulu. Mae’n bwysig cofio nad ydych ar eich pen eich hun.

Mae’n bosib y bydd eich meddyg yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gysylltu â’r swyddfa Gwasanaethau Cymdeithasol leol i weld pa gymorth y gallant ei gynnig.